Dros 50 o unigolion yn ymuno mewn undod i gefnogi Cyfeillion Parc Britannia i wrthwynebu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa Meddygaeth Filwrol
Beirniadu y Cyngor am ganiatáu gwerthu’r parc yn hytrach na diogelu man gwyrdd agored hanfodol ym Mae Caerdydd
Bydd y cynlluniau’n mynd i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd ddydd Mercher
Gwrthwynebiadau pellach yn ymwneud â diffyg cynllun ariannol credadwy a phriodoldeb yr amgueddfa ar gyfer y safle a glustnodwyd

Mae arbenigwyr ac ymarferwyr ym meysydd yr amgylchedd, ecoleg ac economeg wedi ymuno gyda chynrychiolwyr o fyd y celfyddydau, diwydiannau creadigol, gwaith cymunedol a threftadaeth, ynghyd ag arweinwyr ffydd, heddychwyr a gwleidyddion, i gefnogi ymgyrch er mwyn achub Parc Britannia rhag cael ei werthu gan Gyngor Caerdydd, at ddibenion adeiladu Amgueddfa Meddygaeth Filwrol. Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf y bydd y cynnig yn mynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio ddydd Mercher yma, yn wyneb gwrthwynebiad croch ac eang. Mae’n brosiect sy’n cael ei feirniadu am amryw o resymau, ac mewn ymateb mae dros 50 o ffigyrau o wahanol rannau o fywyd cyhoeddus Cymru wedi rhoi eu henw i lythyr yn gwrthwynebu’r datblygiad, gan gynnwys Cian Ciaran, Gwenno, Beti George a Dr Abdul-Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol, Cyngor Mwslimiaid Cymru.
Fel y noda’r llythyr, mae’r union fater sy’n berthnasol i’r pwyllgor cynllunio ddydd Mercher yn ymwneud â chau’r unig fan gwyrdd agored ym Mae Caerdydd – un o’r prif resymau pam y cafodd y parc ei ddiogelu’n flaenorol, a’i brynu gan y cyngor. Fe wnaethant “brynu’r parc ar ôl yr ymgyrch lwyddiannus ddiwethaf gan drigolion i’w ddiogelu, gan arwain y rhai a ymgyrchodd i dybio, ar gam, y byddai’r unig fan gwyrdd agored ym Mae Caerdydd yn cael eu cadw fel cyfleuster hanfodol i’r gymuned ac ymwelwyr. At hynny, mae’r cyngor wedi gosod cynsail o’r blaen ar gyfer gwrthod ei ddatblygiad am y rhesymau hyn.” Fodd bynnag, er gwaethaf y pryderon amgylcheddol a lles sydd yn y fantol, mae’r cynlluniau wedi’u gwthio ymlaen.
Mae’r problemau ehangach sydd yn fwy dyrys eto. Gwrthodwyd y prosiect gan nifer o ddinasoedd eraill eisoes, nad yw’n syndod mawr o ystyried diffyg unrhyw gynllun ariannol cynaliadwy. Yn wir, fel y mae’r llythyr yn datgan, “dangoswyd ei fod yn anghynaliadwy ac mae cynrychiolwyr y sefydliad ei hun wedi cyfaddef cymaint. Bydd y buddion economaidd yn negyddol mewn gwirionedd; mae dinasyddion Caerdydd mewn perygl o gael eu glanio mewn mwy o ddyled gan eu cynrychiolwyr etholedig.”
Mae’r cynlluniau wedi denu ymateb negatif ehangach gan amrywiaeth o leisiau yn arbennig oherwydd y diffyg awydd ymhlith trigolion lleol a gwahanol gymunedau De Caerdydd dros amgueddfa o’r math. Mae’r llythyr yn cwestiynu pa mor briodol yw hi i fod yn “adeiladu’r hyn sydd i bob pwrpas yn gofeb i’r Ymerodraeth Brydeinig a’i lluoedd arfog yng nghymdogaeth hanesyddol Tiger Bay a’r Dociau, ac wrth garreg drws ein Senedd.” Daw hyn ar adeg lle mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu Tasglu BAME i roi amlygrwydd i lais lleiafrifoedd, a lle bu galwadau i sefydlu amgueddfa ar gyfer cymunedau lleiafrifol Caerdydd a Chymru. Fel y noda’r llythyr “Mae Tiger Bay a’r Dociau yn haeddu amgueddfa, ond nid hon mohoni.”
Dywed Ossie Wheatley, cyn Gapten Morgannwg, a chynrychiolydd y grŵp ‘Cyfeillion Parc Britannia’:
“Pa mor eironig, y dylai Cyngor Caerdydd gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer yr ailddatblygiad enfawr ym Mae Caerdydd o dros 1000 o gartrefi newydd, arena dan do, swyddfeydd, gwesty, atyniadau diwylliannol ac ati, ar yr un pryd ag y maent yn cefnogi’r cais i adeiladu Amgueddfa Feddygol ar hanner Parc Britannia. Yn amlwg, nid yw’r Cyngor yn gwerthfawrogi pwysigrwydd Parc Britannia a’r Glannau i drigolion lleol yn ogystal ag ymwelwyr wrth ddarparu’r unig fannau gwyrdd bach sydd ar ôl ym mhrif ran y Bae. Mae arwyddocâd y Parc ond yn mynd i gynyddu yn wyneb ailddatblygu Neuadd y Sir a Chanolfan y Ddraig Goch – sy’n cwmpasu 30 erw! MAE MANNAU GWYRDD O BWYS. Mae rhoi bloc 70 troedfedd o uchder ar raddfa ddiwydiannol ar y Parc yn farc ar y dirwedd ac yn ymosodiad ar awyrgylch y Bae yn ei gyfanrwydd.”
Dywed Nirushan Sudarsan ac Elbashir Idriss, ar ran y grŵp lleol Butetown Matters:
“Credwn y dylid ymgynghori â chymuned Butetown ar ddatblygiadau mawr a bod gennym rôl weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ar unrhyw ddatblygiadau sy’n effeithio ar ein cymuned. Ni ddylai Amgueddfa Meddygaeth Filwrol a gynigiwyd i ddinasoedd eraill ac a wrthodwyd gan y dinasoedd hynny gael ei gollwng ar Butetown. Mae cymunedau lleol yn colli eu mannau hanfodol heb ymgynghori a thrafod priodol. Mae ein dinas yn newid yn gyflym ac mae cymunedau’n cael eu gwthio i’r cyrion a’u hymylu wrth i ddatblygwyr ddod i mewn a newid y lleoedd rydym yn eu gwerthfawrogi a’u heisiau. Mae angen i gymunedau gael yr hawl i herio pŵer annheg datblygwyr. Mae angen i ni roi llais gwirioneddol i gymunedau yn y broses gynllunio a gwneud gwrthwynebiadau cymunedol fel y gellir ymgynghori â nhw’n iawn.”
Meddai Huw Williams, a helpodd i drefnu’r llythyr ac sydd wedi bod yn trefnu gyda’r grŵp Ein Dinas Ni, a ffurfiwyd yn ddiweddar:
“Mae’n amlwg nad oes llawer o groeso i’r prosiect hwn yng Nghaerdydd a bod pawb, o drigolion pryderus lleol, i gymuned ehangach Caerdydd, a Chymru gyfan, yn siomedig bod Cyngor Caerdydd am fwrw ymlaen â hyn er gwaethaf y materion amgylcheddol ac economaidd a’r gwrthwynebiadau sylfaenol ynghylch gosod yr amgueddfa hon ar y safle yma. Mae nifer y lleisiau gwahanol sy’n gwrthwynebu yn adrodd cyfrolau. Dylid pwysleisio y gallai arweinwyr y cyngor, Huw Thomas a Russell Goodway yn arbennig, fod wedi atal y broses hon fisoedd yn ôl drwy wrthod gwerthu’r tir, a’i ddiogelu ar gyfer y gymuned. Mae’r ffaith eu bod wedi mynd yn eu blaenau ar y trywydd hyn yn dweud y cyfan am gyn lleied y maent yn fodlon gwrando ar ddinasyddion Caerdydd. Gyda thrigolion yn gweld eu dinas yn cael ei thrawsnewid yn gyflym, ac nid er gwell, mae’r ymagwedd awtocrataidd hon at lywodraeth leol yn gwbl annerbyniol, ac ni all parhau.
Testun Llawn y Llythyr:
Ysgrifennwn gyda chryn bryder ynghylch y ffaith bod Cyngor Caerdydd wedi penderfynu symud ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer Amgueddfa Meddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd, ac y bydd y Pwyllgor Cynllunio yn ystyried yr achos ddydd Mercher hwn. Mae’n dwyn anfri ar y Cyngor ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma, a’r ffaith iddynt symud ymlaen yn wyneb gwrthwynebiad gan drigolion lleol a’r cyhoedd yn gyffredinol.
Prynodd y Cyngor y parc ar ôl yr ymgyrch lwyddiannus ddiwethaf gan breswylwyr i’w amddiffyn, gan arwain iddynt dybio, ar gam, y byddai’r unig fan gwyrdd agored ym Mae Caerdydd yn cael ei gwarchod fel adnodd hanfodol i’r gymuned ac ymwelwyr. At hynny, mae’r Cyngor wedi gosod cynsail o’r blaen ar gyfer gwrthod datblygiad o’r fath am y rhesymau hyn. Ac eto, rydym bellach yn y sefyllfa lle mae’n ymddangos bod y Cyngor yn gwahodd prosiect a fydd yn dinistrio’r hafan hon mewn môr o goncrit – penderfyniad a wnaed yn fwy afresymol gan y ffaith bod hectarau nas defnyddiwyd o fewn tafliad carreg i’r parc.
Er ein bod yn gofyn bod yn rhaid gwrthod y cynlluniau ar y seiliau amgylcheddol yn unig, hoffem hefyd nodi goblygiadau ehangach datblygiad o’r fath. Dangoswyd bod y cynllun ariannol yn anghynaladwy ac mae cynrychiolwyr y sefydliad ei hun wedi cyfaddef cymaint a hyn. Bydd y buddion economaidd yn negyddol mewn gwirionedd; mae dinasyddion Caerdydd mewn perygl o gael eu glanio mewn mwy o ddyled gan eu cynrychiolwyr etholedig, sy’n croesawu prosiect y mae pob dinas arall wedi’i wrthod, ac y gellid rhoi stop arno trwy beidio gwerthu eu tir. Ond nid yw hwn yn destun pryder i Gaerdydd yn unig; fel Prifddinas Cymru mae gan ddatblygiadau o’r fath oblygiadau i Gymru gyfan.
Yn olaf, byddem yn mynegi ein pryderon ynghylch adeiladu’r hyn sydd i bob pwrpas yn gofeb i’r Ymerodraeth Brydeinig a’i lluoedd arfog yng nghymdogaeth hanesyddol Tiger Bay a’r Dociau, ac ar stepen drws ein Senedd. Mae wynebu ein gorffennol ymerodraethol, a thrais y gorffennol, yn un peth, mae ceisio ei ddefnyddio fel atyniad mewn lleoliad o’r fath yn sarhaus i’r hyn y credwn ddylai fod yn genedl Gymreig flaengar, ac yn un sy’n ceisio adeiladu sefydliadau sy’n dathlu pawb o fewn ein cymunedau, a’u gorffennol, yn eu holl amrywiaeth. Mae Tiger Bay a’r dociau yn haeddu amgueddfa, ond nid hon mohoni.
Ossie Wheatley, Cyn-Gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru
Yr Athro Hybarch Anrhydeddus Howard Williams,
Christine Glossop, Ymwelydd Iechyd wedi ymddeol a Chymdeithas Norwyaidd Cymru
Nirushan Sudarsan, Butetown Matters
Elbashir Idriss, Butetown Matters
Steve Khaireh, Horn Development Association
Dr Eleanor Keen, Ecolegydd
Dr Einir Young, Ymarferydd Datblygu Cynaliadwy
Nigel Pugh, Amgylcheddwr
Sue Edwards, Cylch Alexandra
Anthony Slaughter, Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru
Nerys Lloyd Pierce, Cadeirydd Cymdeithas Ddinesig Caerdydd
Nick Clifton, Athro Daearyddiaeth Economaidd
Calvin Jones, Athro Economeg
Dr Abdul-Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol, Cyngor Mwslimiaid Cymru
Fr Allan R Jones, Canon Rheolaidd St Awstin
Parch Anna Janes Evans, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod
Jane Harries, Cymdeithas y Cymod
Robat Idris, Cymdeithas y Cymod
Leila Usmani, Be Diverse
Ali Abdi, Fforwm Ieuenctid BAME Cenedlaethol
Mabli Jones, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith
Rhys Taylor, Cynghorydd Caerdydd
Leanne Wood, Aelod o’r Senedd
Dr Neil Evans, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus F R Hist S, Prifysgol Bangor
Paul O’Leary, Athro Syr John Williams Hanes Cymru
Dr Patrick Finney, Hanesydd a Phennaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Aberystwyth
Andrew Green, Cyn-Lyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Dr Marian Gwyn, Ymgynghorydd Treftadaeth
Taylor Edmonds, Where I’m Coming From
Rosey Brown, Sull Collective
Steph Bigold, Creative Commons Caerdydd
Dr Rhiannon Williams, Theatr a Pherfformiad, PDC
Eddie Ladd, Dawnswraig ac Artist Perfformio
Dylan Huw, Theatr Genedlaethol Cymru
Elgan Rhys, Dramodydd
Beti George, Darlledwr
Chris Corcoran, Darlledwr, Awdur a Chomediwr
Leroy Brito, Comedïwr, Actor ac Awdur
Catrin Dafydd, Awdur a Bardd
Yr Athro Mererid Hopwood, Awdur a Bardd
Dyfan Lewis, Awdur a Bardd
Iestyn Tyne, Y Stamp
Elan Grug, Y Stamp
Esyllt Lewis, Y Stamp
Eugene Capper, Bubblewrap Collective
Katie Hall, CHROMA
Cian Ciaran
Gwenno Saunders
Dr Gareth Bonello, Cerddor ac Ymchwilydd Treftadaeth
Bethan Mai Morgan Ifan, Artist a Cherddor
Jenny Cashmore, Artist
Elin Arfon, Ysgolhaig DTP ESRC
Dr Huw Williams, Athronydd, Prifysgol Caerdydd