Mae ysgol farchogaeth Caerdydd yn werddon wledig ogoneddus yng nghalon Caerdydd. Yr Hydref diwethaf dathlodd y sefydliad ei ben-blwydd yn 50.
Mae’r ysgol yn un o’r unig ysgolion marchogaeth, sy’n eiddo i’r awdurdod lleol yn y wlad, gyda chefnogaeth grŵp ffrindiau gwych mae’n darparu gwasanaeth marchogaeth amhrisiadwy i’r anabl.
Yn 2013, nododd Cyngor Caerdydd ei nod i gau’r cyfleuster. Bu ymgyrch a ymladdwyd yn gryf ac a gefnogwyd yn dda iawn, ac achubwyd yr ysgol farchogaeth.
Fodd bynnag, mae dogfennau rhyddid gwybodaeth a dderbyniwyd yn ddiweddar gan Gymdeithas Ddinesig Caerdydd yn datgelu bod y Cyngor, unwaith eto, yn edrych i werthu’r ysgol. Mae awgrymiadau wedi’u gwneud fod Coleg y Fro Caerdydd am ei brynu, er nad yw’n glir a yw’r posibilrwydd hwn yn rhan o gynllun y Cyngor o hyd.
Mae’r ysgol farchogaeth yn lle arbennig, sy’n darparu amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar i farchogion o bob oed sy’n derbyn cyfarwyddyd arbenigol, gan dysgu am ofalu am geffylau a merlod. Mae’n dod â llawer iawn o bleser i gynifer o bobl. Cymeradwyir y Ganolfan gan Gymdeithas Ceffylau Prydain.
Hon hefyd oedd y ganolfan farchogaeth gyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad hygyrchedd ar gyfer yr anabl. Mae’r marc ansawdd hwn yn galluogi marchogion anabl nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau marchogaeth i’r anabl, i fynychu’r ganolfan, gan wybod bod gan yr ysgol farchogaeth yr hyfforddiant, y wybodaeth a’r ceffylau i roi’r profiad gorau posibl iddynt.
Mae’r ysgol wedi bodoli am hanner canrif ac rydym am ei weld yn parhau am hanner canrif arall!